2019 Rhif 1489 (Cy. 269)
Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan reoliadau 84, 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 20131, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 20172;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19983;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 20144;
ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19925.
Ffurf a chynnwys3
Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.
Cyfnod para cynlluniau deng mlynedd4
1
Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2021 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2031 (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).
2
Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.
3
Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).
Cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru5
1
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr 2021.
2
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.
Cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi6
1
Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.
2
Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.
Adroddiad adolygu blynyddol7
1
Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2022, gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.
2
Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.
3
Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.
Diwygio cynlluniau8
1
Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.
2
Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.
3
Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.
Llunio ac ymgynghori9
Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig6) yw—
a
Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20117);
b
Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);
c
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
d
darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
e
unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac
f
unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.
Amseriad cyhoeddi10
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.
Dull cyhoeddi11
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—
a
ei roi ar ei wefan; a
b
rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—
i
pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;
ii
unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Dirymu ac arbedion12
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 20138 wedi eu dirymu.
2
Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.
YR ATODLEN
1
1
Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.
2
Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013.
2
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
3
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio data sy’n deillio o’i adolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ei ardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 20169) er mwyn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.
4
1
Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.
2
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
5
Datganiad sy’n nodi sut y bydd ceisiadau y mae’r awdurdod lleol yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion a gynhelir ganddo yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.
6
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd er mwyn sicrhau parhad mewn trefniadau ar gyfer personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i’w ardal.
7
Datganiad sy’n nodi trefniadau’r awdurdod lleol o ran ei ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid10 i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gwarcheidwaid.
8
Datganiad sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â’i fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg (os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol) i lunio cynllun yr awdurdod a sut y bydd y fforwm yn goruchwylio ei weithredu a’i werthuso.
9
Datganiad sy’n nodi—
a
sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir;
b
sut y bydd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau ni waeth beth fo’u cefndir ieithyddol;
c
sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y manteision a all ddod yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
10
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod personau a addysgir yn Gymraeg yn parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.
11
1
Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
2
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
12
1
Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
2
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
13
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i barhau â’r addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ar gyfer personau ym mlwyddyn 10 ac uwch drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen.
14
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio a’i ysgolion a SABau (os bydd angen) i gyd-drefnu darpariaeth Gymraeg fel pwnc i bersonau sydd ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir.
15
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn gwella sgiliau Cymraeg personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhelir ganddo er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.
16
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 201811 er mwyn gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.
17
Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i adnabod y gweithlu y mae ei angen arno er mwyn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y cynllun yn unol â thargedau’r cynllun, ac i gyfrifo unrhyw ddiffyg disgwyliedig yn ei weithlu.
18
Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cymorth er mwyn gwella sgiliau Cymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.
19
Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ei ardal.
20
Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill fel y bo angen, yn hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant i ddysgwyr yn unol â’r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 200812.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)