Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 20172;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19983;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 20144;
ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19925.
Ffurf a chynnwys3
Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.
Cyfnod para cynlluniau deng mlynedd4
1
Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2021 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2031 (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).
2
Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.
3
Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).
Cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru5
1
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr 2021.
2
Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.
Cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi6
1
Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.
2
Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.
Adroddiad adolygu blynyddol7
1
Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2022, gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.
2
Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.
3
Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.
Diwygio cynlluniau8
1
Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.
2
Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.
3
Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.
Llunio ac ymgynghori9
Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig6) yw—
a
Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20117);
b
Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);
c
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
d
darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;
e
unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac
f
unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.
Amseriad cyhoeddi10
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.
Dull cyhoeddi11
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—
a
ei roi ar ei wefan; a
b
rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—
i
pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;
ii
unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Dirymu ac arbedion12
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 20138 wedi eu dirymu.
2
Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.