Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019
Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2020.
Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182.
(1)
(2)
“Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)”
“Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru”
“International Business Wales Limited”.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (O.S. 2018/1173 (Cy. 237)) (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod tri chorff newydd yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018. Y cyrff hyn yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac International Business Wales Limited.
Effaith y diwygiad hwn yw y bydd yr adnoddau y disgwylir i’r cyrff a restrir uchod eu defnyddio yn cael eu cynnwys o fewn Cynnig Cyllidebol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.