ATODLEN 5Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 6 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG
Colofn 1
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE
Colofn 2
Pwnc
Rheoliad 2017/625
Erthygl 69(1)
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Rheoliad 2019/1602
Erthygl 3
Gofyniad bod DFIG i fynd gyda pob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a)
Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b)
Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a)
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b)
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r SRhGRhS, DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d)
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e)
Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a)
Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a)
Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b)
Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Rheoliad 2019/1666
Erthygl 3(1)
Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i gyrhaeddiad y llwyth.