ATODLEN 2Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC48;
ystyr “Penderfyniad 2007/275” (“Decision 2007/275”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestri o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC49;
ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol50;
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd51;
ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd52 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;
ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid53 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;
ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden54;
ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd55;
ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200456;
ystyr “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor57;
ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC58 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;
Pecyn Rheoliad 2017/625
ystyr “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/329 sy’n dynodi Canolfan Gyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Lles Anifeiliaid59;
ystyr “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2018/631 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu labordai cyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer plâu planhigion60;
ystyr “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/66 ar reolau ynghylch trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â rheolau’r Undeb ar fesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion sy’n gymwys i’r nwyddau hynny61;
ystyr “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin62;
ystyr “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/530 sy’n dynodi labordai cyfeirio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer plâu planhigion ar bryfed a gwiddon, nematodau, bacteria, ffyngau ac oomysetau, firysau, firoidau, a ffytoplasmâu63;
ystyr “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor64;
ystyr “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl65;
ystyr “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn66;
ystyr “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol67;
ystyr “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn68;
ystyr “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/723 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y ffurflen enghreifftiol safonol i’w defnyddio yn yr adroddiadau blynyddol a gyflwynir gan Aelod-wladwriaethau69;
ystyr “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin70;
ystyr “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb71;
ystyr “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli72;
ystyr “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin73;
ystyr “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan74;
ystyr “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb75;
ystyr “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system (y Rheoliad SRhGRhS)76;
ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/166077;
ystyr “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cyd-gysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd78.