Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20065
Yn rheoliad 5 (gorfodi), yn lle paragraff (6) rhodder—
6
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;
ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;
ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625.