Diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 201135
Yn rheoliad 7 (treuliau sy’n tarddu o reolaethau swyddogol)—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 27(1) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 80 o Reoliad 2017/625”;
b
ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 54(5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(4) o Reoliad 2017/625”;
c
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Ym mharagraffau (1) a (2) ac yn rheoliad 8(3), ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.