Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200927

Yn lle rheoliad 36 (costau a ffioedd) rhodder—

Costau a ffioedd36

1

Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

2

Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.