Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200926

Yn lle rheoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)) rhodder—

Hysbysiadau mewn perthynas â mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd32

1

Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

2

Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.

3

Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.