Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200924
Yn lle rheoliad 30 (atal dynodiad pwyntiau mynediad) rhodder—
Tynnu safleoedd rheoli ar y ffin yn ôl a’u hatal30
1
Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
2
Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.
3
Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
4
Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.