Diwygio Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 20012
Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 20018, yn rheoliad 7 (cosbi a gorfodi), ym mharagraff (3), yn lle “Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei wirio” rhodder “Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion”.