Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200918
Yn rheoliad 22 (dehongli’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn)—
a
yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—
ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd y mae eu mewnforio wedi’u rheoleiddio gan Erthygl 44 o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad yw’n ofynnol iddynt fod yn ddarostyngedig i wiriadau milfeddygol fel y darperir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC;
b
yn y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;
c
yn lle’r diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig” rhodder—
ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 2017/625 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei chynnwys yng Ngholofn 2 o’r Atodlen honno;