Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 200910

Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

c

hepgorer paragraff (5);

d

ym mharagraff (6), yn lle “Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, mae’r dynodiad yn ymestyn o ran Erthygl 31(2)(a) i (e),” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625, mae’r dynodiad yn ymestyn”.