(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu’n rhannol Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1), a Rheoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wneir o dan y Rheoliad hwnnw.
Mae rholiad 2 yn diwygio Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1440 (Cy. 102)).
Mae rheoliadau 3 i 7 yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)).
Mae rheoliadau 8 i 33 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).
Mae rheoliadau 34 i 37 yn diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1605 (Cy. 186)).
Mae rheoliad 38 yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/479 (Cy. 55)).
Mae rheoliadau 39 i 41 yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd CF10 1EW.