Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.

Diwygio Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 20012

Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 20018, yn rheoliad 7 (cosbi a gorfodi), ym mharagraff (3), yn lle “Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei wirio” rhodder “Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion”.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

3

Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” rhodder—

  • ystyr “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 2073/2005, Rheoliad 2015/1375, Rheoliad 2017/185, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i fwyd;

ii

yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Penderfyniad 2006/766”” rhodder—

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1668/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 931/2011” (“Regulation 931/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 208/2013” (“Regulation 208/2013”), “Rheoliad 210/2013” (“Regulation 210/2013”), “Rheoliad 579/2014” (“Regulation 579/2014”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”), “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”), “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”), “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”), “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”), “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”), “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”), “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”), “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”), “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”), “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”), “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”), “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”), “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”), “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”), “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”), “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”), “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) a “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”), yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

iii

yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw “Rheoliad 2018/329”, “Rheoliad 2018/631”, “Rheoliad 2019/66”, “Rheoliad 2019/478”, “Rheoliad 2019/530”, “Rheoliad 2019/624”, “Rheoliad 2019/625”, “Rheoliad 2019/626”, “Rheoliad 2019/627”, “Rheoliad 2019/628”, “Rheoliad 2019/723”, “Rheoliad 2019/1012”, “Rheoliad 2019/1013”, “Rheoliad 2019/1014”, “Rheoliad 2019/1081”, “Rheoliad 2019/1602”, “Rheoliad 2019/1666”, “Rheoliad 2019/1715”, “Rheoliad 2019/1793” a “Rheoliad 2019/1873”;

b

ym mharagraff (6), yn lle “fel y diwygir unrhyw atodiad iddo” rhodder “fel y’i diwygir”.

5

Yn rheoliad 5 (gorfodi), yn lle paragraff (6) rhodder—

6

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625.

6

Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

7

Yn Atodlen 3A (gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(5)), ym mharagraff (d), yn lle “o dan Erthygl 5 o Reoliad 854/2004 fel y’i darllenir gyda phwynt 1 Rhan C o Bennod IX Adran IV o Atodiad I i’r Rheoliad hwnnw, eu harchwilio i weld a oes Trichinosis arnynt, yn digwydd yn y lladd-dy” rhodder “o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375”.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

8

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn y diffiniad o “awdurdod cymwys”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

ii

yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Penderfyniad 2007/275” (“Decision 2007/275”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1668/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”), “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”), “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”), “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”), “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”), “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”), “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”), “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”), “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”), “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”), “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”), “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”), “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”), “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”), “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”), “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”), “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”), “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) a “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”), yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;

iii

yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” rhodder—

  • ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Pennod 5 o Deitl 2 o Reoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i gynnyrch fel y’i diffinnir yn rheoliad 22;

iv

yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625”;

v

yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw “Rheoliad 2018/329”, “Rheoliad 2018/631”, “Rheoliad 2019/66”, “Rheoliad 2019/478”, “Rheoliad 2019/530”, “Rheoliad 2019/624”, “Rheoliad 2019/625”, “Rheoliad 2019/626”, “Rheoliad 2019/627”, “Rheoliad 2019/628”, “Rheoliad 2019/723”, “Rheoliad 2019/1012”, “Rheoliad 2019/1013”, “Rheoliad 2019/1014”, “Rheoliad 2019/1081”, “Rheoliad 2019/1602”, “Rheoliad 2019/1666”, “Rheoliad 2019/1715”, “Rheoliad 2019/1793” a “Rheoliad 2019/1873”;

b

ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Rheoliad 2017/625 neu unrhyw un o’r Rheoliadau UE ym mhecyn Rheoliad 2017/625”.

10

Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

c

hepgorer paragraff (5);

d

ym mharagraff (6), yn lle “Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, mae’r dynodiad yn ymestyn o ran Erthygl 31(2)(a) i (e),” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625, mae’r dynodiad yn ymestyn”.

11

Yn rheoliad 4 (cyfnewid a darparu gwybodaeth)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (5), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”.

12

Yn rheoliad 5 (sicrhau gwybodaeth)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “gorff rheoli” rhodder “gorff dirprwyedig”, ac yn lle “corff rheoli”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “corff dirprwyedig”;

ii

yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (4), yn lle “corff rheoli” rhodder “corff dirprwyedig”, ac yn lle “gorff rheoli” rhodder “gorff dirprwyedig”.

13

Yn rheoliad 6 (pŵer i ddyroddi codau o arferion a argymhellir)—

a

ym mharagraff (1)(a), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (3), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”.

14

Yn rheoliad 12 (yr hawl i apelio), ym mharagraff (1)—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth)” rhodder “Erthygl 148(3) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth)”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)” rhodder “Erthygl 148(4) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)”;

c

yn is-baragraff (c), yn lle “Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth)” rhodder “Erthygl 138(2)(j) o Reoliad 2017/625 (atal cymeradwyaeth neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl)”.

15

Yn rheoliad 14 (staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall), yn lle “Erthygl 36 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 104(3) o Reoliad 2017/625”.

16

Yn rheoliad 15 (arbenigwyr y Comisiwn), ym mharagraff (1)—

a

yn lle “er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw” rhodder “ac arbenigydd cenedlaethol, a benodwyd at ddibenion Erthygl 116(4) o Reoliad 2017/625, i ddod gydag arbenigydd y Comisiwn, ac er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw o’r Comisiwn”;

b

yn lle “Erthygl 45 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 116 o Reoliad 2017/625”.

17

Yn rheoliad 17 (gweithredu a gorfodi)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “corff rheoli” rhodder “corff dirprwyedig”;

b

ym mharagraff (5)(b), ar ôl “un o arbenigwyr y Comisiwn” mewnosoder “, a phan fo hynny’n berthnasol, arbenigydd cenedlaethol, ”.

18

Yn rheoliad 22 (dehongli’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn)—

a

yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

  • ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd y mae eu mewnforio wedi’u rheoleiddio gan Erthygl 44 o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad yw’n ofynnol iddynt fod yn ddarostyngedig i wiriadau milfeddygol fel y darperir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC;

b

yn y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

c

yn lle’r diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig” rhodder—

  • ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 2017/625 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei chynnwys yng Ngholofn 2 o’r Atodlen honno;

19

Yn rheoliad 23 (cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid a statws awdurdod cymwys)—

a

ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19” rhodder “Rheoliad 2019/1793”;

b

hepgorer paragraff (4).

20

Yn rheoliad 24 (cyfrifoldebau gorfodi bwyd a statws awdurdod cymwys)—

a

ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19” rhodder “Rheoliad 2019/1793”;

b

hepgorer paragraff (4).

21

Yn rheoliad 25 (swyddogaethau’r Comisiynwyr), yn lle “i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 ac Erthygl 10 o Reoliad 669/2009” rhodder “i awdurdodau tollau o dan Erthyglau 46, 57, 75 ac 76 o Reoliad 2017/625 ac Erthygl 4 o Reoliad 2019/1793”.

22

Yn rheoliad 27 (gohirio gweithredu a gorfodi), ym mharagraff (6), yn lle “Erthygl 15(5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 47(1)(d) a (2)(b) ac Erthygl 54(4) o Reoliad 2017/625”.

23

Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “Erthygl 16 o Reoliad 882/2004”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a 45(1), (2) a (4) o Reoliad 2017/625”.

24

Yn lle rheoliad 30 (atal dynodiad pwyntiau mynediad) rhodder—

Tynnu safleoedd rheoli ar y ffin yn ôl a’u hatal30

1

Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

2

Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.

3

Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

4

Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

25

Yn rheoliad 31 (cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625”;

b

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

26

Yn lle rheoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)) rhodder—

Hysbysiadau mewn perthynas â mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd32

1

Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

2

Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.

3

Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

27

Yn lle rheoliad 36 (costau a ffioedd) rhodder—

Costau a ffioedd36

1

Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

2

Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

28

Hepgorer rheoliad 43 (treuliau sy’n deillio o reolaethau swyddogol ychwanegol).

29

Hepgorer rheoliad 44 (treuliau sy’n deillio o gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn).

30

Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

31

Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 882/2004 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

32

Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 882/2004 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

33

Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

34

Mae Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 20119 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

35

Yn rheoliad 7 (treuliau sy’n tarddu o reolaethau swyddogol)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 27(1) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 80 o Reoliad 2017/625”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 54(5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(4) o Reoliad 2017/625”;

c

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

Ym mharagraffau (1) a (2) ac yn rheoliad 8(3), ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

36

Yn rheoliad 8 (hysbysiadau a gweithredoedd mewn achos o anghydymffurfiaeth), ym mharagraff (3)(b), yn lle “Erthygl 54(2) a (5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(2) a (4) o Reoliad 2017/625”.

37

Hepgorer rheoliad 10 (atal dros dro ddynodiad man cyflwyno cyntaf).

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201338

Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201310, yn Atodlen 2, yn Rhan 2, ym mharagraff 3, yn lle “labordy rheoli swyddogol o dan Reoliad 882/2004” rhodder “labordy swyddogol o dan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

39

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 201611 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

40

Yn rheoliad 15 (gweithdrefn mewn perthynas â samplau ar gyfer eu dadansoddi)—

a

yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

c

anfon rhan arall—

i

at y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; neu

ii

at y person a gynigiodd y deunydd i’w werthu drwy gyfrwng cyfathrebu o bell os archebwyd y deunydd oddi wrth berson o’r fath, neu at asiant y person hwnnw; a

b

yn lle paragraff (4)(a) a (b) rhodder—

a

y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw;

b

y person a gynigiodd y deunydd i’w werthu drwy gyfrwng cyfathrebu o bell os archebwyd y deunydd oddi wrth berson o’r fath, neu at asiant y person hwnnw; ac

c

os anfonwyd rhan o’r sampl o dan baragraff (2), at y person yr anfonwyd y rhan honno ato.

41

Yn rheoliad 33 (atebolrwydd am wariant)—

a

ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 54(5) (camau gweithredu mewn achos o beidio â chydymffurfio) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(4) (camau gweithredu mewn achos o beidio â chydymffurfio) o Reoliad 2017/625”;

b

hepgorer paragraff (2).

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru