Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20075
Yn rheoliad 4 (cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro), ym mharagraff (3)—
a
yn is-baragraff (b), ar ôl “ym mhob blwyddyn ddilynol” mewnosoder “hyd nes y daw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 i rym”;
b
ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
c
ar ôl i Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 ddod i rym, cyfartaledd y cyfraddau a gyhoeddir yng Nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod tâl pan gyhoeddir y gyfradd.