Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20073
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—
mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) a “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;
ii
yn y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;
iii
yn y diffiniad o “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;
iv
yn lle’r diffiniad o “rheolaethau swyddogol” rhodder—
mae i “rheolaethau swyddogol” yr ystyr a roddir i “official controls” yn Erthygl 2(1) o Reoliad 2017/625;
v
yn y diffiniad o “prosesu”, yn lle “ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004” rhodder “yn Rheoliad 2017/625”;
vi
yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004” rhodder “y mae tâl a nodir yn Atodiad 4 i Reoliad 2017/625 yn daladwy mewn cysylltiad ag ef”;
b
ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
3
Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.