2019 Rhif 1481 (Cy. 265)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd2.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20073 at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4 ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

2

Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) a “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;

ii

yn y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

iii

yn y diffiniad o “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

iv

yn lle’r diffiniad o “rheolaethau swyddogol” rhodder—

  • mae i “rheolaethau swyddogol” yr ystyr a roddir i “official controls” yn Erthygl 2(1) o Reoliad 2017/625;

v

yn y diffiniad o “prosesu”, yn lle “ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004” rhodder “yn Rheoliad 2017/625”;

vi

yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004” rhodder “y mae tâl a nodir yn Atodiad 4 i Reoliad 2017/625 yn daladwy mewn cysylltiad ag ef”;

b

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

4

Yn rheoliad 3 (gwir gostau)—

a

yn lle “a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004” rhodder “y cyfeirir atynt yn Erthyglau 81 a 82 o Reoliad 2017/625”;

b

yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

5

Yn rheoliad 4 (cyfwerthoedd y bunt â’r Ewro), ym mharagraff (3)—

a

yn is-baragraff (b), ar ôl “ym mhob blwyddyn ddilynol” mewnosoder “hyd nes y daw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 i rym”;

b

ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

c

ar ôl i Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019 ddod i rym, cyfartaledd y cyfraddau a gyhoeddir yng Nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob diwrnod yn ystod y cyfnod tâl pan gyhoeddir y gyfradd.

6

Yn rheoliad 9 (taliadau sy’n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004” rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

7

Yn rheoliad 10 (talu tâl glanio), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

8

Yn rheoliad 12 (tâl o ran sefydliadau prosesu), yn lle “Atodiad III i Reoliad 854/2004”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Deitl 6 o Reoliad 2019/627 ac Atodiad 6 iddo”.

9

Yn lle’r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 9

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE

Rheoliad 2

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC5;

  • ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy’n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol6;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd7 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid8 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden9;

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd10;

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200411;

  • ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig12;

  • ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC13 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor14 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185;

  • ystyr “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol15 fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2015/1375 a Rheoliad 2017/185.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3462) (Cy. 307). Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu’n rhannol Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1), a Rheoliadau Gweithredu a Rheoliadau Dirprwyedig a wneir o dan y Rheoliad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.