2019 Rhif 1481 (Cy. 265)
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd2.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 20073 at offeryn UE a ddiffinnir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, fel y diwygir y Rheoliadau hynny gan y Rheoliadau hyn, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4 ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.