Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.
Diwygio Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009
2
Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
a
yn y diffiniad o “archwilio”, yn lle “Erthygl 2.6 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 3(30) o Reoliad 2017/625”;
b
yn y diffiniad o “rheolaethau”, yn lle “yn unol â Rheoliad 854/2004,”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yn unol â Rheoliad 2017/625, Rheoliad 2019/624 a Rheoliad 2019/627,”;
c
yn y diffiniad o “safle torri”—
i
ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625”;
ii
hepgorer paragraff (b);
d
yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—
mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”) a “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;
e
yn y diffiniad o “sefydliad trin anifeiliaid hela”—
i
ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625”;
ii
hepgorer paragraff (b);
f
yn y lle priodol, mewnosoder—
mae i “cynorthwyydd swyddogol” yr ystyr a roddir i “official auxiliary” yn Erthygl 3(49) o Reoliad 2017/625;
g
yn y diffiniad o “rheolaethau swyddogol”, yn lle “Erthygl 2.1 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 2(1) o Reoliad 2017/625”;
h
yn y diffiniad o “milfeddyg swyddogol”, yn lle “Erthygl 2.1(f) o Reoliad 854/2004” rhodder “Erthygl 3(32) o Reoliad 2017/625”;
i
yn y diffiniad o “lladd-dy”—
i
ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625”;
ii
hepgorer paragraff (b).
4
Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE), rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
5
Yn Atodlen 2 (cyfrifo’r ffi rheolaethau swyddogol)—
a
ym mharagraff 6—
i
yn lle “yr amcanion a bennir yn Erthygl 1.1 o Reoliad 882/2004” rhodder “bod amcanion Rheoliad 2017/625”;
ii
yn lle “Erthygl 3.1” rhodder “Erthygl 9(1)”;
b
ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad VI i Reoliad 882/2004” rhodder “Erthyglau 81 a 82 o Reoliad 2017/625”.