Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.
Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20092.
“Adrodd gan awdurdodau gorfodi18A.
(1)
Pan fo awdurdod gorfodi wedi cyflwyno hysbysiad i weithredwr cyfrifol o dan reoliad 18(1) ar ôl i’r rheoliad hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod gorfodi hysbysu Gweinidogion Cymru am y difrod amgylcheddol perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)
y math o ddifrod amgylcheddol, yn unol â’r categorïau a nodir yn rheoliad 4(1)(a) i (d),
(b)
y dyddiad y digwyddodd y difrod amgylcheddol neu y cafodd ei ddarganfod, ac
(c)
y gweithgaredd a achosodd y difrod amgylcheddol, yn unol â’r rhestr a nodir yn Atodlen 2, ac eithrio mewn achosion pan fo rheoliad 5(2) yn gymwys.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ddarparu unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â’r difrod amgylcheddol y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani.”
Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 20103.
(1)
(2)
Yn rheoliad 3(6)(a), ar ôl “unrhyw ddarpariaeth yn y” mewnosoder “Rheoliad Sengl CMO neu”.
(3)
Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a)
“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau deor a chywion”;
(b)
yn y cofnod yng ngholofn 2, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan C o Atodiad XIV iddo,” rhodder “Rhan C o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”.
(4)
Yn Atodlen 2, Rhan 1—
(a)
“RHAN 1DARPARIAETHAU’R RHEOLIAD SENGL CMO NEU REOLIAD (EU) 2013”;
(b)
yn y tabl—
(i)
“Y ddarpariaeth berthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 neu pan nodir hynny, y Rheoliad Sengl CMO”;
(ii)
ym mhennawd colofn 2, yn lle “gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013” rhodder “gyda’r darpariaethau”;
(iii)
“Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau”.
(5)
“Erthygl 1(3) o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a phwynt 4 o Ran D o Atodiad II iddo, Erthygl 116 o’r Rheoliad Sengl CMO, Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, i’r graddau y maent yn ymwneud ag wyau Dosbarth B”.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 20114.
(1)
(2)
Yn Atodlen 1, yn y tabl yn Rhan 1, yn rhes 1—
(a)
“Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl, i’r graddau y mae’r ddarpariaeth honno yn ymwneud â marchnata cig dofednod”;
(b)
“Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd a bwyd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”). Mae’r diwygiadau’n ymwneud â gweithredu Erthygl 3 o Reoliad (EU) 2019/1010 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gysoni rhwymedigaethau adrodd ym maes deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd (OJ Rhif L 170, 25.6.2019, t. 115). Mae Rheoliad (EU) 2019/1010 yn diwygio Erthygl 18 o Gyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56), ac yn disodli Atodiad 6 iddi. Mae rheoliad 2 yn mewnosod darpariaeth newydd yn Rheoliadau 2009 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gorfodi roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag achosion o ddifrod amgylcheddol i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1671 (Cy. 158)) (“Rheoliadau 2010”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i wyau deor, cywion dofednod buarth fferm, ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae rheoliad 3(2) i (5) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2010.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1719 (Cy. 195)) (“Rheoliadau 2011”), sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i gig dofednod. Mae rheoliad 4(2) yn addasu cyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 a Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 yn y darpariaethau gorfodi yn Rheoliadau 2011.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.