Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 20192.
Diwygio rheoliad 63.
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 6 (diwygio Atodlen 1), ym mharagraff (13), ar ôl “chwynnog,” mewnosoder “ neu”.
Diwygio rheoliad 74.
Yn rheoliad 7 (mewnosod Atodlen 1A)—
(a)
yn nhestun Cymraeg paragraff 3 a fewnosodir, yn lle “(e) enw cyffredin” rhodder “(dd) enw cyffredin”,
(b)
yn nhestun paragraff 15(c) a fewnosodir, yn lle “14(dd)” rhodder “14(1)(e)”, ac
(c)
yn nhestun Cymraeg paragraffau 22(a) a 24(1)(a) a fewnosodir, hepgorer “amgylcheddol”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316 (Cy. 228)) (“Rheoliadau 2019”).
Mae rheoliad 3 yn gwneud mân ddiwygiad i destun Cymraeg rheoliad 6 o Reoliadau 2019 i sicrhau cyfwerthedd â’r testun Saesneg.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i reoliad 7 o Reoliadau 2019, er mwyn cywiro croesgyfeiriad a sicrhau cyfwerthedd rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.