Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1407 (Cy. 248)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

28 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 111(4) ac (11) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(3), ar ôl ymgynghori â’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 126(5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019

2.  Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

Diwygio rheoliad 6

3.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 6 (diwygio Atodlen 1), ym mharagraff (13), ar ôl “chwynnog,” mewnosoder “ neu”.

Diwygio rheoliad 7

4.  Yn rheoliad 7 (mewnosod Atodlen 1A)—

(a)yn nhestun Cymraeg paragraff 3 a fewnosodir, yn lle “(e) enw cyffredin” rhodder “(dd) enw cyffredin”,

(b)yn nhestun paragraff 15(c) a fewnosodir, yn lle “14(dd)” rhodder “14(1)(e)”, ac

(c)yn nhestun Cymraeg paragraffau 22(a) a 24(1)(a) a fewnosodir, hepgorer “amgylcheddol”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316 (Cy. 228)) (“Rheoliadau 2019”).

Mae rheoliad 3 yn gwneud mân ddiwygiad i destun Cymraeg rheoliad 6 o Reoliadau 2019 i sicrhau cyfwerthedd â’r testun Saesneg.

Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i reoliad 7 o Reoliadau 2019, er mwyn cywiro croesgyfeiriad a sicrhau cyfwerthedd rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd paragraffau 28(1) a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(2)

1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(3)

1990 p. 43. Mae is-adran (11) yn diffinio “prescribed”. Amnewidiwyd adran 126 gan baragraff 18 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn wedi hynny i Weinidogion Cymru.