2019 Rhif 1404 (Cy. 247)

Landlord A Thenant, Cymru

Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 91(1) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 19861.

Yn unol â’r ddarpariaeth honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff hynny o bersonau yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol.

Yn unol ag adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2019.

Diwygio Atodlen 82

1

Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (gwaith gwella byrdymor y mae digollediad yn daladwy amdano) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

4B

Application to land in Wales of manure, fertiliser, soil improvers and digestate.

3

Hepgorer paragraff 5.

4

Ar ôl paragraff 5A mewnosoder—

5B

1

In relation to Wales, production of manure arising from the consumption on the holding of relevant feedingstuff by livestock and equidae where the manure is held in storage on the holding.

2

In this paragraph “relevant feedingstuff” means—

a

corn (whether produced on the holding or not), or

b

cake or other feedingstuff not produced on the holding.

5

Hepgorer paragraff 6.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 fel y mae’n gymwys o ran Cymru.

Mae adran 64 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn rhoi’r hawl i denant daliad amaethyddol, wrth i’r denantiaeth ddod i ben ac wrth iddo ymadael â’r daliad, gael digollediad oddi wrth y landlord am waith gwella a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8 y mae’r tenant wedi ei gyflawni ar y daliad.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraffau newydd yn Atodlen 8 i ddarparu ar gyfer talu digollediad am waith gwella o ganlyniad i ddodi deunyddiau gwella pridd, gweddillion treuliad anaerobig, tail a gwrtaith ar y tir (gyda dim cyfyngiadau o ran sut y caffaelir y sylweddau hynny); ac am waith gwella o ganlyniad i dail a gaiff ei storio ac sydd wedi deillio o fwyta, gan dda byw ac aelodau teulu’r ceffyl ar y daliad, rawn (a gynhyrchir ar y daliad ai peidio) neu fwyd anifeiliaid arall nas cynhyrchir ar y daliad.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.