- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
28 Hydref 2019
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 91(1) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1).
Yn unol â’r ddarpariaeth honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff hynny o bersonau yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol.
Yn unol ag adran 94(4) o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (Amrywio Atodlen 8) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2019.
2.—(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (gwaith gwella byrdymor y mae digollediad yn daladwy amdano) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 4A mewnosoder—
“4B. Application to land in Wales of manure, fertiliser, soil improvers and digestate.”
(3) Hepgorer paragraff 5.
(4) Ar ôl paragraff 5A mewnosoder—
“5B.—(1) In relation to Wales, production of manure arising from the consumption on the holding of relevant feedingstuff by livestock and equidae where the manure is held in storage on the holding.
(2) In this paragraph “relevant feedingstuff” means—
(a)corn (whether produced on the holding or not), or
(b)cake or other feedingstuff not produced on the holding.”
(5) Hepgorer paragraff 6.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 fel y mae’n gymwys o ran Cymru.
Mae adran 64 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn rhoi’r hawl i denant daliad amaethyddol, wrth i’r denantiaeth ddod i ben ac wrth iddo ymadael â’r daliad, gael digollediad oddi wrth y landlord am waith gwella a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8 y mae’r tenant wedi ei gyflawni ar y daliad.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraffau newydd yn Atodlen 8 i ddarparu ar gyfer talu digollediad am waith gwella o ganlyniad i ddodi deunyddiau gwella pridd, gweddillion treuliad anaerobig, tail a gwrtaith ar y tir (gyda dim cyfyngiadau o ran sut y caffaelir y sylweddau hynny); ac am waith gwella o ganlyniad i dail a gaiff ei storio ac sydd wedi deillio o fwyta, gan dda byw ac aelodau teulu’r ceffyl ar y daliad, rawn (a gynhyrchir ar y daliad ai peidio) neu fwyd anifeiliaid arall nas cynhyrchir ar y daliad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1986 p. 5; mae adran 96(1) yn diffinio mai “the Minister” (“y Gweinidog”) o ran Cymru yw’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau’r Gweinidog o dan y Ddeddf bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: