Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2019.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio Rheoliadau 19922.
(1)
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.
(2)
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
“SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
56,110
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr
115,510
Caerphilly/Caerffili
142,910
Cardiff/Caerdydd
289,610
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin
150,170
Ceredigion
60,670
Conwy
95,780
Denbighshire/Sir Ddinbych
75,920
Flinthsire/Sir y Fflint
123,400
Gwynedd
100,760
Isle of Anglesey/Ynys Môn
56,520
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful
47,370
Monmouthshire/Sir Fynwy
76,570
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot
114,860
Newport/Casnewydd
118,370
Pembrokeshire/Sir Benfro
101,000
Powys
108,420
Rhondda Cynon Taf
190,140
Swansea/Abertawe
199,280
Torfaen
73,820
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg
104,760
Wrexham/Wrecsam
106,930”
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.