Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a garddwriaeth.
Mae rheoliad 2 yn mewnosod darpariaeth drosiannol yn Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009. Effaith y ddarpariaeth drosiannol honno yw na fydd person yn cyflawni trosedd mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 543/2011 o dan amgylchiadau penodedig penodol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”), sy’n darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i wyau deor, cywion dofednod buarth fferm, ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta.
Mae rheoliad 3(2) yn mewnosod diffiniad o “trydedd wlad” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010. Mae rheoliad 3(3) a (4) yn diwygio’r Atodlenni i Reoliadau 2010 er mwyn dileu cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE na fydd yn bodoli mwyach ar ôl y diwrnod ymadael o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 3(5) yn dileu cyfeiriad at “cenedlaethol” o Atodlen 3 i Reoliadau 2010 er mwyn cyd-fynd â newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith arall yr UE a ddargedwir.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”), sy’n darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata sy’n gymwys i gig dofednod. Mae’r diwygiad yn mewnosod diffiniad o “trydedd wlad” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae’r diwygiad o dan sylw, yn ei dro, yn gwneud newidiadau i Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2019 fel nad yw person yn cyflawni trosedd sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad y Comisiwn (EC) 1825/2000 o dan amgylchiadau penodedig penodol.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae’r diwygiadau dan sylw yn eu tro yn gwneud newidiadau i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Mae’r diwygiadau cyntaf yn dileu cyfeiriadau at stociau a ddelir “o fewn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael” ac “ar y diwrnod ymadael”. Mae rheoliad 6(3) yn mewnosod “caniateir marchnata cynhyrchion eraill y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt hyd nes diwedd y cyfnod perthnasol” sy’n sicrhau y caniateir parhau i farchnata cynhyrchion enw bwyd gwarchodedig/dynodiad daearyddol nad ydynt yn winoedd am dair blynedd o’r diwrnod drannoeth y diwrnod ymadael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.