Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.
Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20192.
“(aa)
ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“(aa)
dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—
(i)
corff sydd wedi ei ddynodi gan Weriniaeth Iwerddon i fod yn gyfrifol am draddodi tystysgrifau yn unol ag Erthygl 21(1) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu
(ii)
corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,
(ab)
tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,”;
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Maent yn gwneud darpariaeth atodol i’r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 4(8)(b) o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 mewn perthynas â thystysgrifau cymhwysedd, sydd eu hangen er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae rheoliad 4(8)(b) o’r Rheoliadau hynny yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd, i hepgor y gofyniad yn Erthygl 21(4) i gydnabod tystysgrifau cymhwysedd a ddyroddir mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 er mwyn sicrhau y caiff unigolyn sy’n dymuno gwneud cais am dystysgrif cymhwysedd ar ôl y diwrnod ymadael ddibynnu ar hyfforddiant ac arholiad cymeradwy a gyflawnir yng Ngweriniaeth Iwerddon, yn gyson â’r trefniadau o dan yr Ardal Deithio Gyffredin gyda Gweriniaeth Iwerddon.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.