- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Anifeiliaid, Cymru
Gwnaed
23 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.
Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
2. Yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(2), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—
(i)corff sydd wedi ei ddynodi gan Weriniaeth Iwerddon i fod yn gyfrifol am draddodi tystysgrifau yn unol ag Erthygl 21(1) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu
(ii)corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,
(ab)tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,”;”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Maent yn gwneud darpariaeth atodol i’r ddarpariaeth a wnaed gan reoliad 4(8)(b) o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 mewn perthynas â thystysgrifau cymhwysedd, sydd eu hangen er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae rheoliad 4(8)(b) o’r Rheoliadau hynny yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd, i hepgor y gofyniad yn Erthygl 21(4) i gydnabod tystysgrifau cymhwysedd a ddyroddir mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 er mwyn sicrhau y caiff unigolyn sy’n dymuno gwneud cais am dystysgrif cymhwysedd ar ôl y diwrnod ymadael ddibynnu ar hyfforddiant ac arholiad cymeradwy a gyflawnir yng Ngweriniaeth Iwerddon, yn gyson â’r trefniadau o dan yr Ardal Deithio Gyffredin gyda Gweriniaeth Iwerddon.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: