Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 7(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
2019 Rhif 1375 (Cy. 241)
Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddo.
Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.