2019 Rhif 1336 (Cy. 233) (C. 45)
Bwyd, Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 28(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 20181.
Enwi1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Hydref 20192
Y diwrnod penodedig i adran 1 (isafbris am alcohol) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ddod i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, yw 14 Hydref 2019.
Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)