Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1336 (Cy. 233) (C. 45)

Bwyd, Cymru

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019

Gwnaed

7 Hydref 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 28(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018(1).

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2019.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Hydref 2019

2.  Y diwrnod penodedig i adran 1 (isafbris am alcohol) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ddod i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, yw 14 Hydref 2019.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ar 14 Hydref 2019 adran 1 (isafbris am alcohol) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i’r graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.