2019 Rhif 1332 (Cy. 230)

Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr

Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (3), a 5(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19671,

ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)3.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion Deddf 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin4.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad at offeryn yr UE yn rheoliad 3 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 20032

Yng Ngorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 20035, yn erthygl 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” rhodder—

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol;

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 20103

Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 20106, yn lle erthygl 11(2) rhodder—

2

At ddibenion paragraff (1), mae maint cragen fylchog i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 4 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 20194

Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 20197, yn lle erthygl 6 rhodder—

6

At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth ym maes pysgodfeydd môr sy’n ymwneud â Chymru a pharth Cymru.

Mae’r diwygiadau’n rhoi cyfeiriadau at Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol, sydd wedi diddymu ac wedi disodli Rheoliad y Cyngor (EC) 850/98, yn lle cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.