- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Cadwraeth Pysgod Môr
Gwnaed
9 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Hydref 2019
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (3), a 5(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1),
ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(3).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion Deddf 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(4).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad at offeryn yr UE yn rheoliad 3 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.
2. Yng Ngorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003(5), yn erthygl 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” rhodder—
“ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol;”.
3. Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010(6), yn lle erthygl 11(2) rhodder—
“(2) At ddibenion paragraff (1), mae maint cragen fylchog i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 4 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
4. Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019(7), yn lle erthygl 6 rhodder—
“6. At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth ym maes pysgodfeydd môr sy’n ymwneud â Chymru a pharth Cymru.
Mae’r diwygiadau’n rhoi cyfeiriadau at Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol, sydd wedi diddymu ac wedi disodli Rheoliad y Cyngor (EC) 850/98, yn lle cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan adran 19(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29). Diwygiwyd adran 1(1) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 43(1) a (2)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (4) o Ddeddf 2009. Gweler adran 1(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan adran 194(1) a (5) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 198(1) a (2) o Ddeddf 2009. Gweler adran 5(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 5(9) gan adran 198(3) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan adrannau 19(2)(d) a (3), a 45 a 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), a Rhan 2 o Atodlen 5 iddi ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran 1, a Rhan 4, o Atodlen 2 iddo.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(1) a (3), a 5(1), ac i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. I’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(3), (4) a (6), a 5(1) a (2) o Ddeddf 1967 i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a chan O.S. 2007/1388.
O.S. 2010/2690 (Cy. 205). Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r dynodiad hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.
O.S. 2003/1855 (Cy. 205), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: