2019 Rhif 1330 (Cy. 229)
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocolau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 80(2), 83(6), a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocolau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2019.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20132.
Diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol2
1
Mae rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol3 (dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn y lleoedd priodol mewnosoder—
ystyr “PPD” (“SSP”) yw protocol prinder difrifol;
ystyr “protocol prinder difrifol” (“serious shortage protocol”) yw—
- a
yn achos meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, brotocol prinder difrifol at ddibenion rheoliad 226A o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 20124 (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol); neu
- b
yn achos unrhyw gyffur arall neu unrhyw gyfarpar arall, brotocol ysgrifenedig—
- i
sydd wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau pan fo Cymru neu unrhyw ran o Gymru, ym marn Gweinidogion Cymru, yn profi prinder difrifol, neu pan all brofi prinder difrifol, o—
- aa
cyffur neu gyfarpar penodedig, neu
- bb
cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig,
- ii
sy’n darparu ar gyfer cyflenwi, gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol, pan fo archeb ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer—
- aa
y cyffur neu’r cyfarpar penodedig, neu
- bb
cyffur neu gyfarpar o’r disgrifiad penodedig,
gynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y protocol, a
- i
sy’n pennu’r cyfnod y mae’r protocol i gael effaith ar ei gyfer, a’r rhannau o Gymru (a all fod yn Gymru gyfan) y mae’r protocol i gael effaith ynddynt;
Diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol3
1
Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol5 (telerau gwasanaethu ar gyfer fferyllwyr GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff 5 (gweinyddu cyffuriau a chyfarpar) mewnosoder—
Cyflenwi yn unol â PPD5A
1
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—
a
bo person yn gofyn i fferyllydd GIG am gyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy; a
b
bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.
2
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r fferyllydd GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.
3
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff y fferyllydd GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—
a
bo’r fferyllydd GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon;
b
bo gwneud hynny yn unol â’r PPD; ac
c
bo cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd wedi ei wneud gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig sydd o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.
4
Pan fo fferyllydd GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—
a
rhaid i’r fferyllydd cofrestredig a grybwyllir yn is-baragraff (3)(c) arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (ac os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw); a
b
os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, ac—
i
yn rhinwedd rheoliad 226A(5)(c)(iii) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), os meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig sy’n wahanol i’r cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd ond sydd ag effaith therapiwtig debyg iddo sy’n cael ei chyflenwi, neu
ii
os yw unrhyw fath arall o gynnyrch yn cael ei gyflenwi, ac mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 20066 mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol fferyllol ar gyfer fferyllwyr GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant yn briodol, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylai darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol gael eu hysbysu bod claf ar eu rhestr cleifion wedi cael ei gyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,
rhaid i’r fferyllydd GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar restr cleifion y darparwr hwnnw, am y cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.
5
Pan—
a
bo is-baragraff (1) yn gymwys;
b
bo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac
c
bo’r fferyllydd GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,
mae’r gofynion i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 5(1) a (2) i’w darllen fel pe baent yn ofynion i weithredu o fewn amserlen resymol.
3
Ym mharagraff 7 (materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
3
Mae is-baragraff (2) yn gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 5A(4)(a), i’w drin fel pe bai’n bresgripsiwn y darperir y cyffur neu’r cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).
4
Ym mharagraff 8 (darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd)—
a
yn is-baragraff (4), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,
b
yn is-baragraff (5), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,
c
yn is-baragraff (10), ar ôl “Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur” mewnosoder “, neu pan fo cyffur sydd i’w ddarparu yn unol â PPD,”,
d
yn is-baragraff (14), yn lle “y paragraff” rhodder “baragraff 5, neu unrhyw gyffur y mae’n ei ddarparu o dan baragraff 5A”, ac
e
ar ôl is-baragraff (14) mewnosoder—
15
Pan fo fferyllydd GIG yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan baragraff 5A, rhaid i’r fferyllydd GIG gynnwys ar y label gweinyddu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.
5
Ym mharagraff 9 (gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebir), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
2A
Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—
a
pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw; a
b
pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.
2B
Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—
a
pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw;
b
pan fo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac
c
pan na all y fferyllydd GIG ddarparu’r cyffur neu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,
ond os yw’r fferyllydd GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyffur neu’r cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.
6
Ym mharagraff 10(2) (gweithgareddau pellach sydd i’w cyflawni mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu), ar ôl “o dan baragraff 4, os na all fferyllydd GIG” mewnosoder “(gan roi sylw i unrhyw PPD perthnasol)”.
Diwygio Atodlen 5 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol4
1
Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol7 (telerau gwasanaethu ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG sy’n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff 4 (gweinyddu cyfarpar) mewnosoder—
Cyflenwi yn unol â PPD4A
1
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—
a
bo person yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG am gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy; a
b
bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.
2
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.
3
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—
a
bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon;
b
bo gwneud hynny yn unol â’r PPD; ac
c
bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.
4
Pan fo contractwr cyfarpar GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—
a
rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (ac os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw); a
b
i
os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, a
ii
os yw math o gynnyrch yn cael ei gyflenwi y mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol fferyllol ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad mewn perthynas ag ef ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant yn briodol, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylai darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol gael eu hysbysu bod claf ar eu rhestr cleifion wedi cael ei gyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,
rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar restr cleifion y darparwr hwnnw, am y cyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.
5
Pan—
a
bo is-baragraff (1) yn gymwys;
b
bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac
c
bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu faint y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,
mae’r gofyniad i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 4(2) i’w darllen fel pe bai’n ofyniad i weithredu o fewn amserlen resymol.
3
Ym mharagraff 6 (materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarpar), ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
3A
Mae is-baragraff (3) yn gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 4A(4)(a), i’w drin fel y presgripsiwn y darperir y cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).
4
Ym mharagraff 7 (darparu cyfarpar)—
a
yn is-baragraff (2), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”,
b
yn is-baragraff (3), ar ôl “Os yw’r archeb yn archeb am” mewnosoder “, neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn,”, ac
c
ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
4
Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan baragraff 4A, rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG gynnwys gydag ef mewn nodyn ysgrifenedig, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.
5
Ym mharagraff 8 (gwrthod darparu cyfarpar a archebir), ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
1A
Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—
a
pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw; a
b
pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.
1B
Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—
a
pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—
i
y cyfarpar y gofynnir amdano, neu
ii
cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw;
b
pan fo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu faint gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol; ac
c
pan na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,
ond os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)