Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019 a deuant i rym ar 31 Hydref 2019.
Dirymu2.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n dirymu’r terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr ar gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 yn Rogiet yn Sir Fynwy sy’n ymestyn o bwynt 800 metr i’r dwyrain o linell ganol trosbont Station Road hyd at bwynt 752 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Station Road. O ganlyniad, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys i’r gerbytffordd a enwyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.