Offerynnau Statudol Cymru
2019 Rhif 1306 (Cy. 227)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019
Gwnaed
3 Hydref 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Hydref 2019
Yn dod i rym
31 Hydref 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019 a deuant i rym ar 31 Hydref 2019.
Dirymu
2. Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010(2) wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n dirymu’r terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr ar gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 yn Rogiet yn Sir Fynwy sy’n ymestyn o bwynt 800 metr i’r dwyrain o linell ganol trosbont Station Road hyd at bwynt 752 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Station Road. O ganlyniad, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys i’r gerbytffordd a enwyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.
1984 p. 27. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraff 28(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), a pharagraff 25 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40), ac Atodlen 8 iddi. Mewnosodwyd adran 17(3ZAA) gan adran 26(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)>.
