RHAN 7Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â goruchwylio rheolaeth a defnydd cyffuriau a reolir a datgelu cofnodion addysgol a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu data
Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 20087
1
Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 20089 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
a
hepgorer y diffiniad o “y GDPR”;
b
yn y lle priodol mewnosoder—
mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno);
3
Yn rheoliad 25(7) (dyletswydd i gydweithredu drwy ddatgelu gwybodaeth ynglyn â phersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
4
Yn rheoliad 26(6) (cyrff cyfrifol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei datgelu am bersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
5
Yn rheoliad 29(3) (adroddiadau ar ddigwyddiadau), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 20118
1
Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 201110 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (5)(a) a (b), yn lle “y GDPR” rhodder “GDPR y DU”.
3
Yn lle paragraff (6) rhodder—
6
Yn y rheoliad hwn, mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno).
Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 20199
Yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 201911, hepgorer paragraffau 71 i 75 a pharagraffau 90 ac 91.