2019 Rhif 1269 (Cy. 220)
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Tachwedd 2019.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 19723.
Awdurdodau lleol penodedig2
1
Mae pob awdurdod lleol sy’n dod o fewn disgrifiad o awdurdod lleol ym mharagraff (2) yn benodedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.
2
Y disgrifiadau o awdurdod lleol yw—
a
cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
b
cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru.
Newid blynyddoedd etholiadau cyffredin3
1
Mae’r blynyddoedd pryd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r awdurdodau lleol a bennir yn erthygl 2 wedi eu newid gan y diwygiadau a ganlyn i Ddeddf 1972.
2
Yn adran 26(1)4 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2017”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “2022”.
3
Yn adran 35(2)5 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2017” rhodder “2022”.
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol4
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) ac adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Dirymu5
Mae Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 20146 wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)