2019 Rhif 1167 (Cy. 204)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671.