xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 8 a 32 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (“y Ddeddf TGT”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “gwaith adfer” yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT er mwyn egluro y gall gwaith a gyflawnir i adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn waith adfer.

O ganlyniad i’r diwygiad hwn, gall gwarediadau trethadwy a wneir er mwyn adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 29 o’r Ddeddf TGT, ar yr amod eu bod yn bodloni’r elfennau eraill o’r diffiniad o waith adfer yn adran 8(4) ac yn cydymffurfio â’r gofynion yn adran 29(1).

Mae rheoliad 3(a) yn diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT i ymestyn cwmpas y rhyddhad rhag treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â gwarediadau trethadwy penodol a wneir wrth lenwi chwareli a mwyngloddiau brig. O ganlyniad i’r diwygiad hwn, caiff gwarediad cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (fel y’i diffinnir gan adran 16 o’r Ddeddf TGT) fod yn gymwys i gael rhyddhad (yn ddarostyngedig i’r amodau eraill a nodir yn adran 32). Ni fydd cymysgedd cymwys o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae rheoliad 3(b) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i’r amod a osodir gan adran 32(1)(d) o’r Ddeddf TGT. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau, pan fo gwarediad trethadwy cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (ac eithrio gronynnau mân) wedi ei wneud ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, ond cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod y gwarediad yn un a fyddai wedi ei ryddhau rhag treth pe bai wedi ei wneud ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, nad yw gwneud y gwarediad hwnnw yn atal gwarediadau a wneir yn y dyfodol rhag bod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 32.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a wneir ar y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym neu ar ôl hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.