xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1143 (Cy. 198)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gwnaed

18 Gorffennaf 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 8(5)(b), 33(1)(b) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).

Yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TGT” yw Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Diwygio adran 8 o’r Ddeddf TGT

2.  Yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT (gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy), yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “nid yw gwaith i adfer man gwarediadau tirlenwi” rhodder “pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw”.

Diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT

3.  Yn adran 32 o’r Ddeddf TGT (ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli), yn is-adran (1)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “sy’n ddeunydd cymwys i gyd;” rhodder—

(i)sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu

(ii)sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;;

(b)ym mharagraff (d), ar y diwedd mewnosoder “neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

18 Gorffennaf 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 8 a 32 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (“y Ddeddf TGT”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “gwaith adfer” yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT er mwyn egluro y gall gwaith a gyflawnir i adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn waith adfer.

O ganlyniad i’r diwygiad hwn, gall gwarediadau trethadwy a wneir er mwyn adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 29 o’r Ddeddf TGT, ar yr amod eu bod yn bodloni’r elfennau eraill o’r diffiniad o waith adfer yn adran 8(4) ac yn cydymffurfio â’r gofynion yn adran 29(1).

Mae rheoliad 3(a) yn diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT i ymestyn cwmpas y rhyddhad rhag treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â gwarediadau trethadwy penodol a wneir wrth lenwi chwareli a mwyngloddiau brig. O ganlyniad i’r diwygiad hwn, caiff gwarediad cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (fel y’i diffinnir gan adran 16 o’r Ddeddf TGT) fod yn gymwys i gael rhyddhad (yn ddarostyngedig i’r amodau eraill a nodir yn adran 32). Ni fydd cymysgedd cymwys o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae rheoliad 3(b) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i’r amod a osodir gan adran 32(1)(d) o’r Ddeddf TGT. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau, pan fo gwarediad trethadwy cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (ac eithrio gronynnau mân) wedi ei wneud ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, ond cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod y gwarediad yn un a fyddai wedi ei ryddhau rhag treth pe bai wedi ei wneud ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, nad yw gwneud y gwarediad hwnnw yn atal gwarediadau a wneir yn y dyfodol rhag bod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 32.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a wneir ar y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym neu ar ôl hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.