xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
14 Ionawr 2019
Gwnaed
22 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006(2) (adran 78A (rhagarweiniol)), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(9) Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
(9A) When reading Council Directive 2013/59/Euratom for the purpose of subsection (9), article 4(43) of Council Directive 2013/59/Euratom is to be read as if, for the words “any competent authority”, there were substituted “the enforcing authority(3)”."
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p .16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”). Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2006 drwy fewnosod darpariaeth newydd sy’n addasu sut y mae’r diffiniad o “inspection” yn Erthygl 4(43) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom, sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy’n codi o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 89/618/Euratom, 90/641/Euratom, 96/29/Euratom, 97/43/Euratom a 2003/122/Euratom (OJ Rhif L 013, 17.1.2014, t. 1), i’w ddarllen at ddibenion Rheoliadau 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/2988 (Cy. 277), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3250, 2008/521, 2010/2146, 2013/755 (Cy. 90), 2016/1154 a 2018/725 (Cy. 142). Mae O.S. 2016/562 hefyd yn gwneud diwygiadau nad ydynt mewn grym eto.
Gweler adran 78A(9) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) i gael ystyr “enforcing authority”.