2019 Rhif 1131 (Cy. 196)
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Medi 2019.
Diwygio’r Rheoliadau2
1
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20033 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3, hepgorer y ddiffiniadau o “cyfnod sylfaen” a “cyfnod allweddol”.
3
Yn rheoliad 4, hepgorer paragraff (7).
4
Yn lle rheoliad 5, rhodder—
5
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2019–2020, 2020–2021 a 2021–2022 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i—
a
ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu
b
baratoi a chynllunio ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir,
mewn perthynas â’r cwricwlwm i’w dysgu yn yr ysgol o ganlyniad i’r darpar newidiadau i’r cwricwlwm i Gymru.
2
Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na dwy sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor pob blwyddyn ysgol.
3
Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)