- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym
1 Medi 2019
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Medi 2019.
2.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, hepgorer y ddiffiniadau o “cyfnod sylfaen” a “cyfnod allweddol”.
(3) Yn rheoliad 4, hepgorer paragraff (7).
(4) Yn lle rheoliad 5, rhodder—
“5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2019–2020, 2020–2021 a 2021–2022 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i—
(a)ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu
(b)baratoi a chynllunio ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir,
mewn perthynas â’r cwricwlwm i’w dysgu yn yr ysgol o ganlyniad i’r darpar newidiadau i’r cwricwlwm i Gymru.
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na dwy sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor pob blwyddyn ysgol.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig pa un a’u cynhelir felly ai peidio. Maent yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i’w rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 i ddarparu i hyd at ddwy sesiwn yn nhrydydd tymor pob un o’r blynyddoedd ysgol 2019–2020, 2020–2021 a 2021–2022 gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol os oeddent wedi eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu i baratoi a chynllunio, mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm i Gymru. Mae’r newidiadau yma yn deillio o’r Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru a’r adroddiad dilynol “Dyfodol Llwyddiannus” (Medi 2015). Maent hefyd yn diwygio rheoliadau 3 a 4 yn Rheoliadau 2003 drwy hepgor darpariaethau diangen.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Lles Disgyblion, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Gweler adran 579(1) am ystyr “regulations” a “prescribed”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2003/3231 (Cy. 311), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1262 (Cy. 119), O.S. 2008/1739 (Cy. 171), O.S. 2011/149 (Cy. 33) ac O.S. 2012/248 (Cy. 41).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: