NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4, 6(a)(i) i (v) a 7 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 14 a 15.

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 5, 9(b) a 10(a) ac (c) o ganlyniad i fudd-dâl nawdd cymdeithasol newydd o’r enw’r Taliad Cymorth Profedigaeth (TCP) i briodau a phartneriaid sifil sy’n goroesi a wneir yn weddw ar 6 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny. Mae’r diwygiadau yn sicrhau y caiff taliadau amrywiol o’r TCP eu diystyru wrth gyfrifo incwm fel bod, yn gyntaf, y taliad uwch cychwynnol ac unrhyw ôl-ddyledion sydd wedi eu cynnwys yn y taliad misol cyntaf yn cael eu trin fel cyfalaf, a diystyriad o 12 mis yn cael ei gymhwyso o’r dyddiad talu, ac yn ail, fel bod taliadau misol llai dilynol (ac eithrio ôl-ddyledion) yn cael eu trin fel incwm a’u diystyru am fis. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b), 18 a 19(a) ac (c).

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 9(a) a 10(b) o ganlyniad i newid enw a throsglwyddo swyddogaethau o’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a wneir gan Orchymyn yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a thros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Throsglwyddo Swyddogaethau (Tir Cyfunddaliad) 2018. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a) a 19(b).

Bwriad y diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 8 yw egluro’r amodau cymhwyso ar gyfer diystyriad pan fo ceisydd yn aelod o gwpl. Ei fwriad yw egluro bod rhaid i’r person sy’n gweithio hefyd fod y person sy’n bodloni’r amodau cymhwyso drwy fod y person—

Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 16.

Caiff y diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3(b) a 6(b) eu gwneud o ganlyniad i’r ffaith fod Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar fin cychwyn mewn perthynas â gwasanaeth maethu o fewn ystyr y Ddeddf honno. Mae’r cynllun a ddefnyddir ar hyn o bryd i gymeradwyo rhieni maeth wedi ei nodi yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Fodd bynnag, mae’n bosibl y caiff y Rheoliadau hynny eu disodli gan Reoliadau pellach a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Gwneir y diwygiad er mwyn sicrhau y bydd rhieni maeth a gymeradwyir o dan Reoliadau 2003 neu o dan unrhyw reoliadau a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf 2014 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig mewn cysylltiad â thrin costau gofal plant. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad yn y Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 6(a)(vi) yn egluro’r sefyllfa mewn cysylltiad â didyniadau annibynyddion fel na fydd unrhyw ddidyniad yn digwydd pan na fo annibynnydd yn y grŵp gweithgaredd perthynol i waith ac yn derbyn budd-daliadau penodol, sef cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.