2019 Rhif 11 (Cy. 5)
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921, a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
4
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20132, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
ii
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
iii
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
b
ym mharagraff 19(8)(k) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 20033, neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20144 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
4
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
5
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 21(2)—
i
ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
ii
ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
iii
ar ôl paragraff (q) mewnosoder—
r
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 20145,
b
ar ôl paragraff 28B mewnosoder—
28C
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 20176 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.
6
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
i
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
ii
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
iii
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
iv
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
v
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
vi
yn is-baragraff (8) yn lle paragraff (a) rhodder—
a
nad yw’n aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith, ac sy’n derbyn cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;
b
ym mharagraff 21(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
7
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
v
yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
c
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
8
Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—
iv
y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—
aa
swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu
bb
y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
v
y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—
aa
yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu
bb
yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.
9
Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
b
ar ôl paragraff 66 mewnosoder—
67
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) neu 65 o Atodlen 10.
10
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 12(1)—
i
ym mharagraff (g) yn lle “,” rhodder “;”;
ii
ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
h
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014,
b
ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
c
ar ôl paragraff 64 mewnosoder—
65
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
11
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 20137 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.
12
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
b
yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
c
yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
d
yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
e
yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50”.
13
Ym mharagraff 55(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
14
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
15
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
b
yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
i
yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
ii
yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
iii
yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
iv
yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
v
yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
c
yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
16
Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—
iv
y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—
aa
swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu
bb
y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
v
y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—
aa
yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu
bb
yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.
17
Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
b
ar ôl paragraff 66 mewnosoder—
67
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) o Atodlen 9 neu baragraff 65 o Atodlen 9.
18
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
a
ym mharagraff 21(2)—
i
ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
ii
ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
iii
ar ôl paragraff (q) mewnosoder—
r
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.
b
ar ôl paragraff 28B mewnosoder—
28C
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.
19
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
a
yn lle paragraff 12(1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-ddyled o’r canlynol, neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol, ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael yr ôl-ddyled neu’r taliad consesiynol—
a
unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 7;
b
budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC8;
c
lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
d
unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 20019;
e
credyd treth gwaith a chredyd treth plant;
f
lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;
g
credyd cynhwysol;
h
taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.
b
ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
c
ar ôl paragraff 64 mewnosoder—
65
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a nodir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)