Offerynnau Statudol Cymru
2019 Rhif 11 (Cy. 5)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed
8 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1), a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(2), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(iii)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
(b)ym mharagraff 19(8)(k) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(3), neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
4. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
5. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 21(2)—
(i)ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
(ii)ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(iii)ar ôl paragraff (q) mewnosoder—
“(r)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014(5),”; a
(b)ar ôl paragraff 28B mewnosoder—
“28C. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017(6) (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
6. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(iii)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
(vi)yn is-baragraff (8) yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)nad yw’n aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith, ac sy’n derbyn cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;”;
(b)ym mharagraff 21(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
7. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
(v)yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
(c)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
8. Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—
“(iv)y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—
(aa)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu
(bb)y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
(v)y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—
(aa)yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu
(bb)yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.”
9. Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(b)ar ôl paragraff 66 mewnosoder—
“67. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) neu 65 o Atodlen 10.”
10. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 12(1)—
(i)ym mharagraff (g) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
“(h)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014,”;
(b)ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(c)ar ôl paragraff 64 mewnosoder—
“65. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
11. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(7) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.
12. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(c)yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(d)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(e)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50”.
13. Ym mharagraff 55(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
14. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
15. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
(v)yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
(c)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
16. Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—
“(iv)y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—
(aa)swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu
(bb)y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
(v)y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—
(aa)yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu
(bb)yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.”
17. Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(b)ar ôl paragraff 66 mewnosoder—
“67. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) o Atodlen 9 neu baragraff 65 o Atodlen 9.”
18. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 21(2)—
(i)ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
(ii)ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(iii)ar ôl paragraff (q) mewnosoder—
“(r)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(b)ar ôl paragraff 28B mewnosoder—
“28C. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
19. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yn lle paragraff 12(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-ddyled o’r canlynol, neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol, ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael yr ôl-ddyled neu’r taliad consesiynol—
(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 7;
(b)budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC(8);
(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
(d)unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(9);
(e)credyd treth gwaith a chredyd treth plant;
(f)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;
(g)credyd cynhwysol;
(h)taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(b)ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(c)ar ôl paragraff 64 mewnosoder—
“65. Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a nodir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthiadau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4, 6(a)(i) i (v) a 7 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 14 a 15.
Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 5, 9(b) a 10(a) ac (c) o ganlyniad i fudd-dâl nawdd cymdeithasol newydd o’r enw’r Taliad Cymorth Profedigaeth (TCP) i briodau a phartneriaid sifil sy’n goroesi a wneir yn weddw ar 6 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny. Mae’r diwygiadau yn sicrhau y caiff taliadau amrywiol o’r TCP eu diystyru wrth gyfrifo incwm fel bod, yn gyntaf, y taliad uwch cychwynnol ac unrhyw ôl-ddyledion sydd wedi eu cynnwys yn y taliad misol cyntaf yn cael eu trin fel cyfalaf, a diystyriad o 12 mis yn cael ei gymhwyso o’r dyddiad talu, ac yn ail, fel bod taliadau misol llai dilynol (ac eithrio ôl-ddyledion) yn cael eu trin fel incwm a’u diystyru am fis. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b), 18 a 19(a) ac (c).
Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 9(a) a 10(b) o ganlyniad i newid enw a throsglwyddo swyddogaethau o’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a wneir gan Orchymyn yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a thros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Throsglwyddo Swyddogaethau (Tir Cyfunddaliad) 2018. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a) a 19(b).
Bwriad y diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 8 yw egluro’r amodau cymhwyso ar gyfer diystyriad pan fo ceisydd yn aelod o gwpl. Ei fwriad yw egluro bod rhaid i’r person sy’n gweithio hefyd fod y person sy’n bodloni’r amodau cymhwyso drwy fod y person—
sydd â hawl i bremiwm anabledd, neu
sy’n derbyn yr elfen gymorth fel rhan o’i ddyfarniad o’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh), neu
sydd yn y grŵp gweithgaredd perthynol i waith ar gyfer LCCh.
Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 16.
Caiff y diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3(b) a 6(b) eu gwneud o ganlyniad i’r ffaith fod Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar fin cychwyn mewn perthynas â gwasanaeth maethu o fewn ystyr y Ddeddf honno. Mae’r cynllun a ddefnyddir ar hyn o bryd i gymeradwyo rhieni maeth wedi ei nodi yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Fodd bynnag, mae’n bosibl y caiff y Rheoliadau hynny eu disodli gan Reoliadau pellach a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Gwneir y diwygiad er mwyn sicrhau y bydd rhieni maeth a gymeradwyir o dan Reoliadau 2003 neu o dan unrhyw reoliadau a wneir yn unol ag adrannau 87 a 93 o Ddeddf 2014 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig mewn cysylltiad â thrin costau gofal plant. Mae rheoliad 13 yn gwneud yr un diwygiad yn y Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 6(a)(vi) yn egluro’r sefyllfa mewn cysylltiad â didyniadau annibynyddion fel na fydd unrhyw ddidyniad yn digwydd pan na fo annibynnydd yn y grŵp gweithgaredd perthynol i waith ac yn derbyn budd-daliadau penodol, sef cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 4 iddi.
O.S. 2013/3029 (Cy. 301), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2014/852, O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20) ac O.S. 2018/14 (Cy. 7).
O.S. 2013/3035 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2014/852, O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20) ac O.S. 2018/14 (Cy. 7).
Ystyr “DCBNC” yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ac ym mharagraff 2 o’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynlluniau Diofyn) (Cymru) 2013.
