xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Gwnaed
8 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 77(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
2. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar 23 Gorffennaf 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn cychwyn gweddill darpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”). Daw gweddill y darpariaethau i rym ar 23 Gorffennaf 2019.
Daeth holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 22 Mai 2019 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) yn unol ag adran 77(2) o’r Ddeddf.