Search Legislation

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1042 (Cy. 184)

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Cadwraeth Pysgod Môr

Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019

Gwnaed

24 Mehefin 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Mehefin 2019

Yn dod i rym

4 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1), 1(3), 1(4), 1(6), 5(1) a 5(2) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 a daw i rym ar 4 Gorffennaf 2019.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae erthyglau 3 a 5 yn gymwys o ran parth Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “cragen foch” (“whelk”) yw pysgodyn cragen o’r rhywogaeth Buccinum undatum;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnach 1995(3) neu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bersonau sy’n gymwys i fod yn berchen ar longau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o’r Ddeddf;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(5);

ystyr “maint lleiaf penodedig” (“specified minimum size”) yw—

(i)

55 o filimetrau cyn 4 Gorffennaf 2020; a

(ii)

65 o filimetrau ar 4 Gorffennaf 2020 ac ar ôl hynny; ac

mae i “parth Cymru” (“Welsh zone”) yr ystyr a roddir yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(6).

Gwahardd pysgota am gregyn moch penodedig

3.  Mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag pysgota am gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.

Gwahardd glanio cregyn moch penodedig

4.  At ddibenion adran 1(1) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw) rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer cregyn moch yw’r maint lleiaf penodedig.

Gwahardd cludo cregyn moch penodedig

5.  At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag cludo unrhyw gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.

Mesur cregyn moch

6.  At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 7 o Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer gwarchod a rheoli adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr(7).

Dirymu a Diwygio

7.—(1Mae Is-ddeddf 11 (Cregyn Moch – Maint Lleiaf)(8) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt(9) wedi ei dirymu.

(2Yn Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig)(10) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt, yn y Tabl sy’n pennu maint lleiaf pysgod cregyn, dileer y rhes sy’n ymwneud â Chregyn Moch.

(3Yng Ngorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(11), yn y Tabl yn Atodlen 3, dileer y rhes sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 11.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch pysgota, glanio a chludo cregyn moch gan gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru ac ym mharth Cymru.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig yng Nghymru ac ym mharth Cymru.

Mae erthygl 4 yn rhagnodi’r maint lleiaf penodedig ar gyfer glanio cregyn moch yng Nghymru.

Mae erthygl 5 yn rhagnodi’r maint lleiaf penodedig ar gyfer cludo cregyn moch yng Nghymru neu ym mharth Cymru.

Y maint lleiaf penodedig at ddibenion erthyglau 3, 4 a 5 yw 55 o filimetrau cyn 4 Gorffennaf 2020 a 65 o filimetrau ar 4 Gorffennaf 2020 ac ar ôl hynny.

Mae erthygl 6 yn rhagnodi’r dull ar gyfer pennu maint cragen foch at ddibenion y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 7 yn dirymu Is-ddeddf 11 (Cregyn Moch – Maint Lleiaf) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt ac yn diwygio Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt.

Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a Phwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38) gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Ers 1 Ebrill 2010, mae’r Is-ddeddfau a nodir uchod wedi cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol yn rhinwedd paragraffau (1) a (3) o erthygl 13 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlenni 3 a 4 iddo. Mae erthygl 7(3) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Orchymyn 2010.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn ar ffurf ddrafft yn unol â gofynion Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer gwarchod adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr (OJ Rhif L 125, 24.04.98, t. 1).

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i edrych arno yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1967 p. 84, (“Deddf 1967”). Amnewidiwyd adran 1 o Ddeddf 1967 gan adran 19(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29). Diwygiwyd adran 1(1) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”) ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraffau 43(1) a (2)(a) o Ran I o Atodlen 2 iddo. Amnewidiwyd adran 1(3) o Ddeddf 1967 gan adran 194(1) a (4) o Ddeddf 2009. Diwygiwyd adran 1(4) o Ddeddf 1967 gan adran 201 o Ddeddf 2009 a pharagraff 1(1), (2)(a) a (b) o Atodlen 15 iddi. Gweler adran 1(9) am ddiffiniad o “appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 1(9) gan adran 194(1) a (5) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (3) o O.S. 2010/760. Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 198(1) a (2) o Ddeddf 2009. Diwygiwyd adran 5(2) gan adran 201 o Ddeddf 2009 a pharagraff 3(1) a (2) o Atodlen 15 iddi. Gweler adran 5(9) am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 5(9) gan adran 198(3) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 22(2) o Ddeddf 1967, sy’n cynnwys diffiniad o “the Ministers”, gan adran 19(2)(d) a (3) ac adrannau 45 a 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), a Rhan II o Atodlen 5 iddi ac erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran I, a Rhan IV, o Atodlen 2 iddo.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(1), 1(3), 1(4), 1(6), 5(1) a 5(2), i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)): gweler erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. I’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran parth Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1(3), 1(4), 1(6), 5(1) a 5(2) o Ddeddf 1967 i Weinidogion Cymru gan erthygl 4(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).

(4)

2006 p. 32; diwygiwyd adran 158(1) gan adran 43(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). At ddibenion y diffiniad o “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf 2009, y ffin rhwng y rhannau hynny o’r môr o fewn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i’w trin fel rhai sy’n gyfagos i Gymru a’r rhai nad ydynt i’w trin felly, ym mhob achos, yw llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006, a pharagraff 26 o Atodlen 11 iddi, mae O.S. 1999/672 yn parhau i gael effaith.

(6)

Pennir parth Cymru yn O.S. 2010/760.

(7)

OJ Rhif L125, 27.4.1998, t. 30.

(8)

Mae Is-ddeddf 11 Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt yn cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi yn wreiddiol yn rhinwedd erthygl 13(1) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 3 iddo.

(9)

Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru ar 1 Ebrill 2010 pan ddaeth erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ag adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p.23) i rym. Effaith hynny oedd diddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38).

(10)

Mae Is-ddeddf 19 Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt yn cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol mewn perthynas â’r un ardal o Gymru â’r ardal yr oedd yr Is-ddeddf honno’n gymwys iddi yn wreiddiol yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ac Atodlen 4 iddo.

(11)

O.S. 2010/630 (C. 42), fel y’i diwygiwyd gan erthygl 7(6)(a) o Orchymyn Cramenogion Penodedig (Gwahardd eu Pysgota, eu Glanio, eu Gwerthu a’u Cludo) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/2076 (Cy. 312)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources